Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf.
Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn
Mae gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol oedd cestyll yn y Canol Oesoedd, gyda waliau trwchus a thyredau uchel, a ffos o gwmpas - a llawer ohonyn nhw á mur o gwmpas y dref a reolwyd gan y castell a barbican, hefyd. I fynd fewn i'r castell, roedd rhaid mynd dros bont codi a thrwy borthdy cryf á chlwydi a phorthcwlis. Roedd carchar mewn llawer o'r cestyll.
Roedd y cestyll yn lle byw yn ogystal ag yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafoedd byw ac ystafelloedd cysgu, rhai ohonyn yn gyfforddus, cegin, bwtri i gadw gwîn neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau ac ysguboriau i gadw bwyd i'r anifeiliaid. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynhonell ddŵr i'w cadw'n fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol a phosibl.
Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn o gofio eu bod yn codi'r cestyll mewn gwlad estron. Roedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr ac fe'i gorfodwyd i adael eu cartrefi yn Lloegr i weithio yng Nghymru am flynyddoedd.
Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwilwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a ble i adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysicrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Roeddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn
Adeiladwyd llawer o gestyll Cymru yn y trydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid, yn bennaf Edward I, brenin Lloegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, e.e. Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd neu Castell Biwmares yn Sir Fôn a Chastell Rhuddlan yn y gogledd ddwyrain. Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.
Gwelwch Rhestr cestyll Cymru
Castell | Slot | Burg | Castle | castillo | Château | Kastali | 城 | Kasteel | Zamek (architektura) | Castelo (fortaleza) | Замок (строение) | Slott