article

Newyddiadurwr, nofelydd a bardd oedd Caradog Prichard (3 Tachwedd 1904-1980). Cafodd ei eni a'i fagu yn Llwyn Onn, Allt Pen-y-bryn ym Methesda ond treuliodd hanner ei oes yn Llundain.

Roedd Chwarel y Penrhyn ym Methesda yn un o chwareli llechi mwyaf y byd, a dyna lle yr oedd tad Caradog yn gweithio. Bu streic fawr yn 1900 ac ymunodd ei dad John Prichard â'r streic gyda rhyw 2800 eraill, ond mae'n debyg iddo fynd yn ôl i weithio cyn i'r streic ddod i ben. Ar 4 Ebrill 1905 cafodd John Prichard ei ladd mewn damwain yn y chwarel. Roedd cysgod tlodi, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn a Diwygiad 1904 yn drwm ar fagwraeth Caradog.

Roedd ei fam yn dioddef o iselysbryd difrifol ac yn 1923 dygwyd hi i ysbyty meddwl Dinbych lle y bu weddill ei bywyd. Roedd tlodi, gwallgofrwydd ac hunanladdiad yn themau cyson trwy waith Caradog Pritchard.

Bwrodd ei brentisiaeth fel newyddiadurwr ar yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon, y Faner ac wedyn bu yn gweithio i'r Western Mail yng Nghaerdydd.

Yn 1934 daeth yn is-olygydd y News Chronicle yn Llundain. Aeth i weithio i'r Daily Telegraph yn 1947, a dyna lle bu tan ei ymddeoliad yn 1972. Ymdaflodd ef a'i wraig Mati i fywyd Cymraeg traddodiadol Cymry Llundain - cyngherddau, y capel a'r eglwys ac wrth gwrs ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi.

Ei waith mawr yw'r nofel Un Nos Ola Leuad a gyhoeddwyd yn 1961 ac a wnaethpwyd yn ffilm yn ddiweddarach. Enillodd y goron dair gwaith yn olynol: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caergybi 1927, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treorci 1928 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1929. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1962. Cyhoeddodd hunangofiant Afal Drwg Adda yn 1973.

Gweithiau


Cyfieithiadau o Un Nos Ola Leuad

Ffilm


Cymry enwog | Genedigaethau 1904 | Marwolaethau 1980

Caradog Prichard

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Caradog Prichard".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld