Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd. Gobeithir y bydd talentau opera, bale, sioeau cerdd a dawns gorau'r byd yn perfformio yno. Costiodd £104 miliwn i'w godi. Cafodd ei agor yn swyddogol yn 2004.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Ty Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Canolfan Mileniwm Cymru".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world