| Dinas Caerdydd | |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Statws: | Dinas (1905) |
| Pencadlys: | Caerdydd |
| Arwynebedd: | 140 km² |
| Cód ONS: | 12PT |
| ISO 3166-2: | GB-CRF |
| Demograffig | |
| Poblogaeth (2001) | 305,353 2,181 / km² |
| Gwleidyddiaeth | |
| www.caerdydd.gov.uk | |
| Gweithgor: | Dim rheolaeth gyffredinol |
| AS: | Kevin Brennan | Jon Owen Jones | Alun Michael | Julie Morgan
Caerdydd yw dinas fwyaf a phrif ddinas Cymru. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan blynyddoedd cynnar y 19eg canrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 poblogaeth Caerdydd oedd 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.
Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal a Stadiwm y Mileniwm.
Mae gan Caerdydd nifer fawr o faestrefi yn ei hamgylchynu. Mae'r rhain yn cynnwys Y Rhath, Llandaf, Yr Eglwys Newydd, Llaneirwg, Y Waun, Treganna, Pen y Lan, Rhiwbeina, Y Sblot
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960 a 1978. Am wybodaeth bellach gweler:
Кардиф (град Уелс) | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Caerdydd | Caerdydd | קארדיף | Cardiff | Cardiff | カーディフ | Kardydh | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Cardiff | Кардифф | Cardiff | Cardiff | Cardiff
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Caerdydd".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world