Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain fel rhan o Ddeddf Iaith 1993. Mae'n derbyn grant blynyddol gan y llywodraeth o £12 miliwn, sydd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg.
Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau. Mewn gwirionedd, nid oes grym ganddo dros y cyrff hyn, ac yn wir mae'r Bwrdd wedi'i feirniadu yn y blynyddoedd ar am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector breifat.
Mae nifer o Gymry Cymraeg yn gweld y Bwrdd fel offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw fod angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau hawliau Cymry Cymraeg ac i gynyddu defnydd o'r iaith ymysg y genhedlaeth iau.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Bwrdd yr Iaith Gymraeg".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world