Mae Brut y Tywysogion yn un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer Hanes Cymru.
Cronicl yw Brut y Tywysogion, sydd i bob golwg wedi ei fwriadu fel ymestyniad o Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy. Mae wedi goroesi fel nifer o gyfieithiadau i'r Gymraeg o fersiwn gwreiddiol yn Lladin. Nid yw'r fersiwn Lladin ei hun wedi goroesi. Y fersiynau pwysicaf yw'r rhai yn Peniarth MS. 20 ac un ychydig llai cyflawn yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r fersiwn dan y teitl "Brenhinedd y Saeson" yn gyfuniad o'r deunydd yma a deunydd o ffynhonell Seisnig.
Dechreua fersiwn Peniarth MS. 20 yn 681 pan gofnodir marwolaeth Cadwaladr a daw i ben yn 1332. Byr iawn yw'r cofnodion am y blynyddoedd cyntaf, fel rheol cofnod o farwolaethau a digwyddiadau megis diffygion ar yr haul, pla neu ddaeargrynfeydd, ond mae llawer mwy o fanylion yn y cofnodion diweddarach. Rhoir sylw yn bennaf i frenhinoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ond cofnodir digwyddiadau eglwysig, er enghraifft pan ddaeth yr egwys yng Nghymru i ddefnyddio'r un dull o benderfynu ar ddyddiad y Pasg ag eglwys Rhufain dan berswâd "Elbodius" (Elfodd), Esgob Bangor, yn 768. Mae digwyddiadau yn Lloegr, Iwerddon, Yr Alban ac weithiau Ffrainc yn cael eu cofnodi'n fyr hefyd.
Credir fod y cronicl mynachaidd gwreiddiol wedi ei ysgrifennu yn Abaty Ystrad Fflur, ond ymddengys ei fod wedi ei gadw yn yr hen abaty yn Llanbadarn yn y 11fed ganrif. Defnyddiwyd croniclau o abatai eraill yn y gwaith hefyd. Credir bod o leiaf un o'r cyfieithiadau Cymraeg wedi ei wneud yn Ystrad Fflur hefyd.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Brut y Tywysogion".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world