| Pen-y-bont ar Ogwr Bragle |
Mae Bragle, neu Bracla, yn faesdref i dref Pen-y-bont ar Ogwr, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad preswyl enfawr gydag oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle. Codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad gwreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un mwyaf yw'r Nant Sana.
Mae'r ystad yn dal i ehangu ar diroedd Fferm Tremaen sydd ar ôl (yn cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau'r Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.