article

Priodwedd meintiol yw arwynebedd sy'n mynegi maint rhan o arwyneb. Arwynebedd arwyneb yw swm arwynebeddau gwynebau allanol gwrthrych 3-dimensiwn.

Unedau


Mae'r canlynol yn enghreifftiau o unedau arwynebedd:
metr sgwâr = uned ddeilliedig SI
ar = 100 metr sgwâr
hectar = 10,000 metr sgwâr
cilomedr sgwâr = 1,000,000 metr sgwâr
megametr sgwâr = 1012 metr sgwâr

Unedau traddodiadol "Ymerodol", fel y'i diffinir eisioes o'r metr:

troedfedd sgwâr = 0.09290304 metr sgwâr
llathen sgwâr = 9 troedfedd sgwâr = 0.83612736 metr sgwâr
erw = 43,560 troedfedd sgwâr = 4046.8564224 metr sgwâr
milltir sgwâr = 640 erw = 2.5899881103 cilomedr sgwâr

Fformiwlau defnyddiol


Arwynebeddau gwrthrychau 2-dimensiwn

  • Sgwâr neu betryal: h w (lle h yw'r hyd, ac w yw'r lled; mewn achos sgwâr, mae h = w).
  • Cylch: \pi r^2 (lle r yw'r radiws)
  • Hirgrwn: \pi ab (lle a a b yw'r echelinau lled-fwyaf a lled-leiaf)
  • Unrhyw bolygon rheolaidd: \frac{Pa}{2} (lle mae P = hyd y perimedr, ac a yw hyd apothem y polygon pellter o ganolbwynt y polygon i ganolbwynt un o'r ymylon)
  • Paralelogram: Su (Y sail S yw hyd rhyw ymyl, a'r uchder u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon sydd â hyd S)
  • Trapesoid: \frac{(B + b)u}{2} (hydoedd yr ymylon paralel yw B a b, ac u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon paralel)
  • Triongl: \frac{Su}{2} (lle mae S yn unrhyw ymyl, ac u yw'r pellter rhwng y llinell sy'n cynnwys S i gornel arall y triongl). Gellir defnyddio'r fforwla hwn os wybyddir yr uchder u. Os gwybyddir hyd y tri ymyl, yna gellir defnyddio'r fformwla canlynol: \sqrt{s(s-a)(s-b)(s-c)} (lle a, b, c yw hydoedd yr ymylon, ac s = \frac{a + b + c}{2} yw hanner hyd ei berimedr)
  • Mae'r arwynebedd rhwng graff dwy ffwythiant yn hafal i integreiddad un o ffwythiannau f(x), tynnu integreiddiad y ffwythiant arall, g(x).
  • Yr arwynebedd a amgylchynir gan ffwythiant r = r(θ) â mynegwyd cyfesurynnau polar yw {1 \over 2} \int_0^{2\pi} r^2 \, d\theta .
  • Rhoddir yr arwynebedd a amgylchynir gan gromlin barametraidd \vec u(t) = (x(t), y(t)) â diweddbwyntiau \vec u(t_0) = \vec u(t_1) gan integreiddiad llwybr
\oint_{t_0}^{t_1} x \dot y \, dt = - \oint_{t_0}^{t_1} y \dot x \, dt = {1 \over 2} \oint_{t_0}^{t_1} (x \dot y - y \dot x) \, dt

neu cyfernod-z

{1 \over 2} \oint_{t_0}^{t_1} \vec u \times \dot{\vec u} \, dt

Arwynebedd arwyneb siapiau 3-dimensiwn

  • Ciwb: 6h^2, lle h yw hyd unrhyw ymyl
  • Bocs petryalog: 2 (h w + h u + w u), lle dynoda h, w, ac u hyd, lled, ac uchder y bocs
  • Sffêr: 4 \pi r^2, π yw gymhareb hyd cylchyn a diamedr cylch, 3.14159..., ac r yw radiws y sffêr
  • Sylindr: 2\pi r (u + r), lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder
  • Côn: \pi r (r + \sqrt{r^2 + u^2}), lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder.

Fläche | مساحة | Площ | Плошча | Àrea | Povrch | Areal | Fläche | Pindala | Έκταση | Area | Areo | مساحت | Pinta-ala | Vídd | Superficie | ક્ષેત્રફળ | שטח | Površina | Superficie | Areo | Flatarmál | 面積 | ფართობი | 면적 | Area | Platība | Plotas | Oppervlak | Velarantany | Oppervlakte | Flatevidd | Areal | Powierzchnia | Área | Площадь | Area | Površina | Ytmått | พื้นที่ | Площа | Diện tích | 面积 | Bīn-chek

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Arwynebedd".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld