article

Mae Afon Teifi yn afon yng nghanolbarth Cymru sy'n llifo i Fae Ceredigion gerllaw Aberteifi

Mae Afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref Fair-rhos. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio Abaty Ystrad Fflur mae'n cyrraedd pentref Pontrhydfendigaid ac yna yn troi tua'r de-orllewin a llifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref Tregaron ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio Llanddewi Brefi, lle mae Afon Brefi yn ymuno a hi, Llanfair Clydogau, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder. Ychydig cyn cyrraedd Llandysul mae Afon Cletwr yn ymuno a hi, yna mae'n llifo trwy Castell Newydd Emlyn, Cenarth ac ger Abercych mae'r Afon Cych yn ymuno â hi. Wedyn â heibio Cilgerran a Llechryd cyn cyrraedd y môr islaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched a Llechryd.

Un o nodweddion Afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am Eog yn bennaf, gan ddefnyddio cwrwgl yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.

River Teifi

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Afon Teifi".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld