Mae Afon Hafren (River Severn yn Saesneg yn afon sy'n tarddu yng Nghymru cyn llifo trwy Loegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Cymru a Lloegr. Hi yw'r afon hwyaf ar Ynys Prydain, 354 km (219 milltir) o hyd.
Mae Afon Hafren yn tarddu yng nghanolbarth Cymru ar lethrau gogleddol Pumlumon gerllaw Llanidloes, ar uchder o 610 medr. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno a hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. Mae'r afon yn awr yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam ac yna heibio Caersws lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy Y Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy Y Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber, sef Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.
Severn | River Severn | Severn | Severn | Severn | Sabrina | Severn | Severn, Storbritannia | Severn | Severn
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Afon Hafren".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world