article

Map_y_Donwy.jpg Yr afon ail hiraf yn Ewrop yw Afon Donaw neu Afon Donwy (Almaeneg: Donau; Slofaceg: Dunaj; Hwngareg: Duna; Croateg, Serbeg, a Bwlgareg: Dunav; Romaneg: Dunărea), gan mai Afon Volga yw'r un hiraf; ond Afon Donwy yw'r unig un sy'n llifo o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'n codi yn y Fforest Ddu yn yr Almaen lle mae afonydd Brigach a Breg yn uno i ffurfio Afon Donaw. Mae'r afon yn 2,850 km o ran hyd ac yn llifo i'r Môr Du yn Romania.

Mae'r afon yn nyfrffordd rhyngwladol pwysig sy'n cysylltu'r Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Croatia, Serbia, Bwlgaria, Romania a'r Wcráin. Trefi mawr ar lan yr afon yw Ulm yn yr Almaen, Fienna yn Awstria, Bratislava yn Slofacia, Budapest yn Hwngari a Beograd yn Serbia.

Mae camlas yn cysylltu'r afon ag afonydd Rhein a Main er 1992 (Camlas Rhein-Main-Donaw) ac felly mae'n bosibl mynd ar long o Rotterdam, porthladd ym Môr y Gogledd, i Sulina ar lan y Môr Du (tua 3,500 km). Yn 1987 cludwyd tua 100 miliwn tunnell o nwyddau ar Afon Donaw.

Afonydd

Donau | دانوب | Danubiu | Дунай | Дунав | Dunav | Danubi | Dunaj | Дунай (юханшыв) | Donau | Donau | Δούναβης | Danube | Danubo | Danubio | Doonau | Danubio | دانوب | Tonava | Danube | An Danóib | Río Danubio | 𐌳𐍉𐌽𐌰𐍅𐌹/Donawi | דנובה | Dunav | Duna | Donau | Dóná | Danubio | ドナウ川 | 다뉴브 강 | Danubius | Donau | Dunojus | Donava | Дунав | Donau | Donau | Donau | Дунай (цæугæдон) | Dunaj | Rio Danúbio | Dunăre | Дунай (река) | Dunav | Danube | Dunaj | Donava | Danubi | Дунав | Donau | Tuna Nehri | Дунай | 多瑙河

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Afon Donaw".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld