Mae Afon Alaw yn un o'r afonydd pwysicaf ar Ynys Môn.
Mae Afon Alaw yn tarddu gerllaw Llanerchymedd yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i Lyn Alaw, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.
Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio Llanbabo a Llanfachraeth, ac mae afon arall, a elwir yr Alaw Fach, yn ymuno a hi. Mae'n cyrraedd y môr ym Mhenrhos, i'r dwyrain o Gaergybi.
Ceir sôn am Afon Alaw yn y Mabinogion, lle'r adroddir yr hanes am Branwen yn cael ei chladdu mewn bedd ar lan Alaw. Mae claddfa ar lan yr afon gerllaw Llanbabo yn dwyn yr enw "Bedd Branwen" - credir ei bod yn dyddio o Oes y Pres.
This article is licensed under the GNU Free Documentation License.
It uses material from the
"Afon Alaw".
Home Page • arts • business • computers • games • health • hospitals • home • kids & teens • news • physicians • recreation• reference • regional • science • shopping • society • sports • world