| Aberdâr Rhondda Cynon Taf |
Mae Aberdâr (Aberdare yn Saesneg) yn dref yng nghwm Cynon yn sir draddodiadol Morgannwg, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, De Cymru. Y boblogaeth yn 1991 oedd 31,619. Mae'n 4 milltir o Merthyr Tudful a tua 24 o Gaerdydd.
Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r gymdeithas gydweithredol yng Nghymru, yn 1860.
Yn wreiddiol, ar ddechrau yr 19fed ganrif, roedd Aberdâr yn bentref yn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfyddwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant yn 1799 ac 1800, wedi'u ddilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman yn 1827 ac 1847. Nid ydy'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, roedd y rhan fwyaf o'r glo wedi'i ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond arol hwn dechreuwyd allforio glo o Dde Cymru. Yn ail hanner yr 19fed ganrif, gwellodd y dref yn fawr.
Aberdâr oedd man cartref bardd Ail Rhyfel Byd Alun Lewis ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Mae'n hefyd cartref y Stereophonics, sydd yn dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:
Aberdare | Aberdare | Aberdare | Aberdare - Aberdâr | Aberdare | Aberdare | Aberdare | Aberdare | Aberdare