article

Etholaeth yn ne Cymru yw Aberafan, sy'n cynnwys tref ddiwydiannol Port Talbot. Poblogaeth ddosbarth gweithiol sydd ganddi'n bennaf, ac mae'r sedd wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur dros y blynyddoedd. Yn y gorffennol bu Ramsay MacDonald, prif weinidog cyntaf Llafur yn cynrychioli'r sedd (rhwng 1922 a 1929), a bu John Morris, a fu'n Ysgrifennydd Cymru ac yn Dwrnai Cyffredinol, yn ei chynrychioli rhwng 1959 a 2001.

Etholiadau i'r Cynulliad


Dr Brian Gibbons yw Aelod Cynulliad Aberafan. Mae wedi cynrychioli'r sedd ers yr etholiad cyntaf ym 1999. Mae'r sedd yn rhan o ranbarth Gorllewin De Cymru.

Canlyniadau Etholiad 2003

YmgeisyddPlaidPleidleisiauCanran
Brian GibbonsLlafur1113759.4
Geraint OwenPlaid Cymru332417.7
Claire WallerDemocratiaid Rhyddfrydol18409.8
Myr BoultCeidwadwyr17329.2
Robert Williams6083.2
Gwenno SaundersAnnibynnol1140.6

Etholiadau i San Steffan


Hywel Francis yw aelod seneddol Aberafan; fe lwyddodd i gadw'r sedd i'r Blaid Lafur ar ôl ymddeoliad John Morris fel aelod seneddol yn 2001.

Canlyniadau Etholiad 2005

YmgeisyddPlaidPleidleisiauCanran
Hywel FrancisLlafur1807760.1
Claire WallerDemocratiaid Rhyddfrydol411413.7
Philip EvansPlaid Cymru354511.8
Annunziata Rees-MoggCeidwadwyr306410.2
Jim WrightVeritas7682.6
Miranda La VeyY Blaid Werdd5101.7

Canlyniadau Etholiad 2001

YmgeisyddPlaidPleidleisiauCanran
Hywel FrancisLlafur1906363.1
Lisa TurnbullPlaid Cymru29559.8
Chris DaviesDemocratiaid Rhyddfrydol29339.7
Ali MirajCeidwadwyr22967.6
Andrew TuttonAnnibynnol19606.5
Captain BeanyMillennium Bean7272.4
Martin ChapmanY Gynghrair Sosialaidd2560.8

Eisteddfod Genedlaethol


Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan ym 1932 a 1966. Am wybodaeth bellach gweler:

Etholaethau yng Nghymru

Aberavon (UK Parliament constituency)

 

This article is licensed under the GNU Free Documentation License. It uses material from the "Aberafan (etholaeth)".

Home Pageartsbusinesscomputersgameshealthhospitalshomekids & teensnewsphysiciansrecreationreferenceregionalscienceshoppingsocietysportsworld