Ffordd yng Nghymru yw'r A470. Mae'n mynd yr holl ffordd o Landudno yn y Gogledd i Gaerdydd yn y De. Ymysg y llefydd y mae'n mynd trwyddo mae Maindy, Tongwynlais, Castell Coch, Ffynon Taff, Pontypridd, Abercynon, Aberhonddu, Llyswen, Llanfair-ym-Muallt,Llanelwedd, Rhaeadr Gwy, Llangurig, Llanidloes, Llandinam, Caersws, Carno, Llanbrynmair, Talerddig, Commins Coch, Mallwyd, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Ganllwyd, Trawsfynydd, Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, Dolwyddelan, Betws y Coed, Llanrwst, Tal y Cafn a Glan Conwy. Mae'n ffordd hynod o droelliog, ond yn aml yr unig ffordd o drafeilio o un pen o Gymru i'r llall. Fe enwyd rhaglen deledu ar S4C ar ei hôl.